Kathy Gittins, artist a gwraig fusnes yw gwestai Beti George. Cawn hanesion difyr ei magwraeth ar fferm fynydd Penrhos, uwchben Pontrobert a Meifod yn Sir Drefaldwyn. Roedd y capel mor bwysig i fagwraeth Kathy, i Gapel Gad yr oedd hi’n mynd bob dydd Sul gyda’i theulu. Y capel drws nesa, rhyw filltir i fyny’r lon oedd Capel Penllys, sef lle sefydlwyd Aelwyd Penllys gan y diweddar Parch Elfed Lewis, ac mae hi'n hel atgofion am yr eisteddfodau rhwng y ddau gapel a mynd i'r aelwyd. Fe astudiodd gwrs celf yn Leeds, cwrs cynllunio graffeg ac wedyn agor oriel ym Meifod a hynny yn ystod cyfnod anodd iawn iddi yn ei bywyd. Fe ddatblygodd yr Oriel yn siop ddillad, a bu'n rhedeg 3 siop Kathy Gittins ym Mhwllheli, Trallwng a'r Bont-faen, ond bu cyfnod covid yn heriol a Brexit. Fe benderfynodd gau'r busnesau llynedd. Mae hi'n Fam i 4, ac yn Nain i 12eg o wyrion ac wyresau.
6 Apr 2025 - 47 मिनट 59 सेकंड
Beti George sydd yn sgwrsio gyda Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Yn wreiddiol o Aberpennar ger Aberdâr, dechreuodd Rhian ei gyrfa fel swyddog heddlu, bu gyda nhw am 7 mlynedd ond y 3 mlynedd ola yn gweithio gyda aml asiantaeth efo trais yn y cartref. Penodwyd hi’n Gynghorydd Cenedlaethol cyntaf Cymru ar gyfer mynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn 2015. Cyn iddi ymgymryd â’i swydd fel Comisiynydd, cafodd Rhian ei chydnabod fel Cadeirydd Arbenigol yr Adolygiadau Dynladdiadau Domestig sy’n ymwneud â phobl hŷn.
30 Mar 2025 - 52 मिनट 26 सेकंड
Dr Eurfyl ap Gwilym yr economegydd yw gwestai Beti George. Daeth un digwyddiad yn 2010 ag ef i sylw mawr pan fentrodd herio Jeremy Paxman, un o'r newyddiadurwyr uchaf ei barch ym Mhrydain. Drannoeth 'roedd y gwefannau ar dân. Mi ddaru Eurfyl elwa o’r ffaith fod o ddim yn cyfadde’ ei fod o’n anghywir ac mi ddaliodd arno. Mae o di cael pobol yn dod ato yn ei adnabod o’r teledu - yng Nghaerdydd a Llundain … “You’re the Paxman man! Well Done”. Dechreuodd ei yrfa gyda chwmni Unilever ar gynllun datblygu rheolwyr busnes. Bu'n gweithio gyda chwmni John Williams yn rheoli pob agwedd o'r busnes. Bu’n Bennaeth adran gwerthu cyfrifiaduron gyda chwmni mawr electroneg Philips, cwmni rhyngwladol – o’r Iseldiroedd. Bu’n gweithio gyda GE. Bu’n brif weithredwr i gwmni meddalwedd rhyngwladol yn Llundain ( Cwmni o UDA ydoedd). Gwerthu a datblygu meddalwedd i fanciau. Bu’n gweithio gyda'r Principality yn ddirprwy gadeirydd ac yn gyfarwyddwr anweithredol byrddau technolegol, a bu’n gweithio gyda Phlaid Cymru. Bu'n helpu Gwynfor Evans yn ystod cyfnod 1966- '67. " Doedd dim llawer o adnoddau pan aeth Gwynfor mewn i'r Senedd yn '66, 'roeddem ni'n gosod cwestiynau Seneddol, doedd dim google, a dim modd cael llawer o wybodaeth, felly roedden ni'n codi llawer iawn o gwestiynau". Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 cân gan gynnwys Dafydd Iwan a Karl Jenkins.
23 Mar 2025 - 51 मिनट 50 सेकंड
Mae Mark Williams yn gyn-nofiwr Paralympaidd, fe yw sylfaenydd LIMB-art - cwmni sy'n cynhyrchu cloriau unigryw a hwyliog ar gyfer coesau prosthetig . Newidiodd bywyd Mark Williams o’r Rhyl un diwrnod ym Mehefin 1982 pan gollodd ei goes chwith mewn damwain ffordd wrth seiclo adref o’r ysgol. Roedd Mark yn 10 mlwydd oed. Mae’r ddamwain wedi siapio ei fywyd a’i yrfa mewn nifer o ffyrdd ac wedi arwain Mark i sefydlu cwmni yn 2018 o'r enw LIMB-art sy'n dylunio gorchuddion ar gyfer coesau prosthetig. Mae ei waith wedi cael ei gymeradwyo gan y Brenin yn 2024 gyda’r cwmni yn ennill un o Wobrau’r Brenin am ei fenter. Mae wedi ennill nifer o wobrau am ddyfeisio pethau a hefyd 30 mlynedd nol fe enillodd fedal aur, arian ac efydd ym Mhencampwriaethau'r byd i'r anabl fel nofiwr Paralympaidd. Mae ei stori yn anhygoel!
16 Mar 2025 - 51 मिनट 22 सेकंड
" Mae bywyd yn rhy fyr" meddai Teleri Wyn Davies mewn cyfweliad arbennig gyda Beti George. " Mae beth sydd wedi digwydd i Dad wedi siapio fi, ac wedi neud i fi edrych ar fywyd mewn ffordd wahanol". Mae Teleri yn un o gyn-chwaraewyr tîm rygbi Cymru, ac wedi derbyn gwahoddiad i gael chwarae a hyfforddi’r gamp yn Tsieina. Mae hi'n byw yn ninas Shenzen sydd wedi ei lleoli yn ne-ddwyrain Tsieina, dinas gyda phoblogaeth o 17.5 miliwn sy’n cysylltu Hong Kong â'r tir mawr. Mae hi hefyd yn credu y byddai ei phenderfyniad wedi cael sêl bendith ei thad, Brian 'Yogi' Davies, a fu farw yn 56 oed - chwe blynedd ar ôl cael ei barlysu wrth chwarae ei gêm olaf i Glwb Rygbi'r Bala. Naw oed oedd Teleri ar y pryd, ac mae hi'n cofio'r diwrnod yn glir, ac yn trafod dylanwad ei thad a'i mam. Mae hi'n trafod rygbi merched ac yn rhannu straeon ei bywyd yn ogystal â dewis caneuon sydd wedi dylanwadu arni, gan gynnwys cân Mynediad am Ddim - Cofio dy Wyneb. Hon oedd y gân ar gyfer angladd Dad. "Mae jyst yn gân mor neis a mor agos i nghalon i. " Mi ddaru’r hogiau rygbi ddod at ei gilydd a chanu hon.
9 Mar 2025 - 50 मिनट 13 सेकंड
Yr arlunydd o Flaenau Ffestiniog, Gareth Parry, yw gwestai Beti George. Magwyd yn y tŷ lle ganwyd ei Fam a’i Nain yn Manod, Blaenau Ffestiniog. Cawn hanesion difyr ei fagwraeth yn ogystal â'i hanes yn denig o Blaenau ar drên gyda'i ffrind ysgol am "fywyd gwell" yn Llundain a hynny yn ei arddegau. Wedi gadael ysgol, fe aeth i’r coleg celf ym Manceinion, cyfnod y mods a’r rocers a’r gerddoriaeth soul. O fewn dim amser, mi roedd y teimlad o gaethiwed yn ôl, rhyw deimlad fod o yn y carchar eto (fel roedd yn teimlo adre efo Dad) . Daeth y rebel allan ynddo ac wedyn daeth y dylanwadau o’r tu allan i’r coleg. Gadawodd y coleg a dod 'nôl i weithio yn y chwarel yn Blaenau. Dylanwadodd y naturiaethwr Ted Breeze arno, a bu'n gwerthu lluniau i'r cylchgrawn Country Life. Mae bellach yn gwerthu ei waith mewn orielau celf yn Llundain ac yng Nghymru.
23 Feb 2025 - 50 मिनट 18 सेकंड
Georgia Ruth, y gantores a'r gyflwynwraig yw gwestai Beti George. Mae wedi rhyddhau 4 albwm, ac yn ystod y cyfnod clo, mi ddechreuodd sgwennu ychydig bob dydd. Mi ddaru hunan gyhoeddi ei nofel gyntaf “Tell Me Who I am”. Cafodd gynnig wedyn i sgwennu yn Gymraeg – Casglu Llwch, sef casgliad o fyfyrdodau ganddi. Roedd llynedd yn dipyn o flwyddyn rhwng popeth! Roedd ganddi albwm allan mis Mehefin. Roedd hi'n cyhoeddi llyfr Saesneg yr un cyfnod ac yn cyhoeddi llyfr Cymraeg mis Tachwedd. A dros yr haf – ar lwyfan Sesiwn Fawr yn Nolgellau - fe aeth Iwan ei gwr yn sâl, roedd bron a gorffen ei set (efo Cowbois) pan gafodd strôc ar y llwyfan. Mae Georgia yn trafod y cyfnod yma, a sut y gwnaeth hi ac Iwan ymdopi. Mae hi'n fam i 3 bellach, recordiwyd y sgwrs cyn genedigaeth Alma Gwen.
16 Feb 2025 - 50 मिनट 15 सेकंड
Mae Lowri yn gweithio gyda GwyrddNi, mudiad gweithredu ar newid hinsawdd yn Dyffryn Peris, sy'n rhoi'r gymuned wrth galon y cynllun. "Dwi'n actifydd, yn amgylcheddwr, yn drwsiwr ac yn ail-bwrpaswr. Mae prynwriaeth a siopau tsiaen yn fy ngwylltio a fydda’i ddim yn hedfan, o ran egwyddor." Yn Fardd, yn Wrach Fodern ac yn aelod o Urdd Derwyddon Môn, yn fam i 3 o fechgyn ac yn Nain i un. Mae hi'n wyres i'r enwog fardd o Fôn, Machraeth ac fe dreuliodd Lowri flynyddoedd yn ei gwmni " roedd Taid yn siarad mewn cynghanedd" meddai ac yn ddylanwad mawr. " Mae sain y gerdd dafod yn rhan ohona'i". Mae hi yn byw bywyd prysur a diddorol, ac yn credu yn yr ysbrydol " da ni'n fwy na chorff a gwaed". Mae hi'n dewis 4 can, yn cynnwys can Lleuwen – Bendigeidfran ddaeth allan ar ôl canlyniad Brexit. “Mae angen pontydd rhyfeddol”. Mae Lowri yn teimlo reit gryf am hyn. Mae hi’n teimlo ei bod yn reit aml yn pontio rhwng gwahanol garfannau o gymdeithas. Mae hefyd yn dewis artist o'r Iwerddon sy'n canu caneuon gwleidyddol, Lisa O'Neill –gan ddewis y gan If I Was a Painter.
9 Feb 2025 - 50 मिनट 25 सेकंड
Glenda Jones-Williams Is lywydd pobol a diwylliant Gogledd Ewrop ac Asia a’r Môr Tawel gyda Coca Cola yw gwestai Beti George. Yn wreiddiol o Frynaman fe gafodd gyfnod yn gweithio ym myd y gyfraith ac wedyn cwympo mewn i’r byd corfforaethol ac i fyd adnoddau dynol (Human Resources neu Personnel gynt neu People and Culture fel maen nhw'n cael eu hadnabod yn Coca Cola). Mae wedi gweithio gyda Coca Cola ers tua 18 mlynedd bellach. Tydi methu credu fod merch sy’n siarad Cymraeg ac yn dod o Frynaman mewn swydd uchel yn y byd corfforaethol. Y cynllun oedd bod yn gyfreithwraig am byth. Fe gafodd ei 'head huntio' i'r swydd, ac fe gynigiwyd swydd ryngwladol iddi ond wedi ei leoli yn Llundain, ond mi roedd ei mab, Harri newydd ei eni ac roedd hi am iddo gael magwraeth Gymraeg a doedd hi ddim isio symud i Lundain, felly mi ddaru berswadio ei phennaeth yn Atlanta fod posib neud y swydd yn unrhyw le! Mae’n trafaelio’r byd efo’i gwaith – Awstralia, Ewrop i gyd, Phillipines, Jakarta, Bali, India ac America.
2 Feb 2025 - 52 मिनट 18 सेकंड
Daf James, y dramodydd, cerddor, cyfansoddwr, perfformiwr ac awdur yw gwestai Beti George. Fe gafodd lwyddiant ysgubol diweddar gyda'i gyfres deledu Lost Boys and Fairies, ac mae'n trafod yr heriau sydd yn dod yn sgil ysgrifennu. Mae yn rhannu ei brofiad o fabwysiadu dau fachgen a merch fach gyda'i ŵr, Hywel, ac yn trafod sut mae hynny wedi newid eu byd. Fe ddaeth yn rhiant yn fuan ar ôl colli ei Fam, ac mae'n trafod effaith galar gyda Beti. Ei gyngor i ysgrifenwyr ifanc yw “Y mwyaf authentic ych chi – mae’r stori yn mynd yn bellach, gonestrwydd mae cynulleidfa eisiau.” Mae'n hoff iawn o'r grŵp Eden a Caryl Parry Jones, ac yn credu eu bod yn gwneud gwaith ffantastig yn gymdeithasol o ran iechyd meddwl, a'u bod wedi esblygu gydag amser, rhaid gwneud os ti’n artist.
26 Jan 2025 - 01 घंटा 06 मिनट 23 सेकंड