Pigion: Highlights for Welsh Learners

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. BBC Radio Cymru highlights for Welsh learners.
Sgwrsio

Sgwrsio

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Ben McDonald, ei ffrind ers dyddiau ysgol, ac mae'r ddau erbyn hyn yn dysgu Cymraeg.

9 apr. 2025 - 35 min 57 sec

 
Podlediad Pigion y Dysgwyr, Ebrill 2, 2025

Podlediad Pigion y Dysgwyr, Ebrill 2, 2025

Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Mawrth yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones. GEIRFA CLIP 1 Cadair olwyn: Wheelchair Fatha - ffordd arall o ddweud - Fel Profiad: Experience Gwerthfawrogi bywyd: To appreciate life Rhwystredig: Frustrating Goleuni: Light Coelio - ffordd arall o ddweud - Credu Tîm elusennol: Charity Team Ymateb: To respond Difaru: Regretting CLIP 2 Cyfarwydd: Familiar Diflannu: Disappearing Chwyldroadol: Revolutionary Cenhedlaeth: Generation Gohebu: Reporting Lloeren: Satellite Cael gwared ar: To get rid of Cynnyrch craidd: Core product Canolbwyntio: Concentrating CLIP 3 Dymchwel: To demolish Ymwybodol: Aware Atyniad: Attraction Ymgyfarwyddo: To familiarize oneself Torf: A crowd CLIP 4 Ymladdwr cawell: Cage fighter Pwysau: Pressure Bant - ffordd arall o ddweud - I ffwrdd Llefain - yn y gogledd mi fasen ni’n dweud - Crio CLIP 5 Pencampwraig: Champion Mocha o gwmpas: Messing around Cystadleuol: Competitive Llyfn: Smooth Llechen: Slate Galluogi: To enable CLIP 6 Saer: Carpenter Prin: Scarce Sa i’n cofio - ffordd mae rhai’n dweud - Dw i ddim yn cofio Dieithr: Unfamiliar Mwyach: Any more CLIP 7 Penodol: Specific Datgelu: To disclose Gwatswch allan: Look out Dail: Leaves Gwythiennau: Veins Bwytadwy: Eatable Caniatâd: Permission Tlws: Pretty Sawrus: Savoury CLIP 8 Cuddio: Hiding Dinistr: Destruction Cragen: Shell Llecyn: A small place Deiliach: Herbage Difa: To kill

2 apr. 2025 - 31 min 27 sec

 
Pont: Rob Lisle

Pont: Rob Lisle

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Rob Lisle. Cafodd Rob Lisle ei fagu yn yr Iseldiroedd ac yn Abertawe. Pensaer yw Rob ac ar ôl cyfnod yn byw yn Llundain penderfynodd ddychwelyd gyda’i deulu i Gymru i Sir Gaerfyrddin. Mae’n byw yno gyda’i wraig Sian a’r plant. Penderfynodd ddysgu’r Gymraeg er mwyn cefnogi addysg ei blant a hefyd er mwyn ymdoddi i’r gymuned leol.

11 mrt. 2025 - 25 min 02 sec

 
Podlediad Pigion y Dysgwyr, Mawrth 4ydd, 2025

Podlediad Pigion y Dysgwyr, Mawrth 4ydd, 2025

Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Chwefror yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones. Geirfa ar gyfer y bennod:- CLIP 1 Sawna: Sauna Buddion: Benefits Diffyg cwsg: Lack of sleep Arbrofi: To experiment Plymbwll: Plunge pool Datblygu: To develop Corddi: Churning Chwysu: Sweating Elwa: To benefit Pwysau gwaed: Blood pressure Dihuno ffordd arall o ddweud Deffro CLIP 2 Pennaeth: Head Byth bythoedd: Never ever Yn hytrach na: Rather than Cynhyrchu: To produce Hewl dyma’r ffordd mae llawer yn dweud y gair Heol CLIP 3 Dylunydd ydy Designer Ymgyrch: Campaign Ro’n i’n cael (f)y nenu at: I was drawn to Cyfrifoldebau penna(f): Main responsibilities Deunyddiau: Materials Cynnwrf: Excitement Cyfryngau cymdeithasol: Social media Ail benodi: To reappoint I’r dim: Exactly CLIP 4 Trawiadol: Striking Yn gyfrifol am: Responsible for Wedi gwirioni efo yn y de ‘dwlu ar ‘ Hoff iawn Ymgorffori: To incorporate Teyrnged: Tribute Arwyddocaol: Significant CLIP 5 Yr Aifft: Egypt Enfawr: Huge I raddau: To an extent Amlwg: Obvious Meddylfryd: Intention Corff: Body Wedi tynhau: Have tightened Ysbrydoliaeth: Inspiration CLIP 6 Bwriadol: Intentional Adnabyddus gair arall am Enwog Cynulleidfa: Audience CLIP 7 Mas ffordd arall o ddweud Allan ‘Slawer dydd ffordd arall o ddweud Ers talwm Mam-gu a Tad-cu neu Nain a Taid Yr aelwyd: Home CLIP 8 Go iawn? Really? Cefnogol: Supportive Mewn cyswllt efo: In contact with Fatha yr un fath â neu Fel Picio draw: Come over Gwirfoddoli: Volunteering Annog: Encouraging Bwrw ymlaen fel ’na: Carried on like that

4 mrt. 2025 - 35 min 37 sec

 
Pont: Alanna Pennar-Macfarlane

Pont: Alanna Pennar-Macfarlane

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Alanna Pennar-Macfarlane. Cerddor llawrydd yw Alanna Pennar-Macfarlane. Yn wreiddiol o dref Stirling yr Alban, mae hi bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Dechreuodd ddysgu’r Gymraeg o ddifri yn 2020 yn ystod y cyfnod clo. Cyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2024. Erbyn mae hi wedi sefydlu cwmni creu adnoddau i ddysgwyr sef Pennar Bapur.

11 feb. 2025 - 24 min 49 sec

 
Podlediad Pigion y Dysgwyr, Chwefror 4ydd, 2025

Podlediad Pigion y Dysgwyr, Chwefror 4ydd, 2025

Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Ionawr yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones. Geirfa ar gyfer y bennod:- Clip 1 Cyfres: Series Cychwynnol: Initial Pennod: Episode Andros o gyffrous: Very exciting Datgelu: To reveal Llywio: Presenting Cyngor: Advice Gweithgareddau: Activities Heb os nac oni bai: Without doubt Clip 2 Cynhesu, neu C’nesu, i fyny: Warming up Asgellwr: Winger Eisteddle: Stands Canlyniad: Results Cic o’r smotyn: Penalty Efaill: Twin Callio: To wisen up Dyrchafiad: Promotion Clip 3 Ffyddlon: Faithful Bradwyr: Traitors Yn datgan: Declaring Rhyfedd: Strange Yn fanwl gywir: Being accurate Wedi bachu: Nicked Cael gwared ar: To get rid of Ansicrwydd: Uncertainty Strwythuro: To structure Cuddio: To hide Ymwybodol : Aware Clip 4 Mwya poblogaidd: Most popular Cynulleidfa lawn: A capasity audience Denu: To attract Yn gyson: Regularly Hybu: To promote Perchnogion: Owners Ar y cyd â: Jointly with Diwylliant: Culture Annog: To encourage Clip 5 Y Deyrnas Unedig: The United Kingdom Traddodiadau: Traditions Unigryw: Unique Cysylltu yn ddyfnach: Connecting deeper Llenyddiaeth: Literature Clip 6 Llachar: Bright Yn glou - Ffordd arall o ddweud: Yn gyflym Pydru: To decay Moy’n - Ffordd arall o ddweud: Isio Dail: Leaves Cael gwared ar: To get rid of Clip 7 Mae’n bwrw ti: It knocks you Ynghlwm â: Connected to Defod: Ritual Hylif: Liquid Ystol: Ladder Tagu: To choke Clip 8 Oes Aur: Golden Age Huawdl: Eloquent Tu fas: Tu allan Hapusrwydd: Happiness Rhan annatod: An essential part

4 feb. 2025 - 35 min 45 sec

 
Pont: Judi Davies

Pont: Judi Davies

Saesnes yw Judi a gafodd ei magu yn Lloegr. Cwrdd â Chymro di-Gymraeg a’i denodd hi i ymgartrefu yn Aberdâr. Wedi iddi ymddeol yn gynnar o’i swydd fel athrawes, penderfynodd ymuno â Chwrs Dwys, Prifysgol De Cymru er mwyn dysgu’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae hi’n fam-gu ac yn defnyddio’r Gymraeg gyda’r wyrion ac yn gwirfoddoli gyda maes Cymraeg i Oedolion. Mae hi’n aelod o gangen leol Merched y Wawr ac yn gwirfoddoli fel siaradwr rhugl ar gynllun partnera’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae ei brwdfryddedd a’i hangerdd dros y Gymraeg yn heintus.

14 jan. 2025 - 18 min 23 sec

 
Podlediad Pigion y Dysgwyr, Ionawr 7fed, 2025

Podlediad Pigion y Dysgwyr, Ionawr 7fed, 2025

Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Rhagfyr yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones. Geirfa ar gyfer y bennod:- CLIP 1 Beiriniaid: Judges Ias: A shiver Chwerw-felys: Bitter sweet Diniwed: Innocent Cynhyrchwyr: Producers Clyweliadau: Auditions Hyfforddwyr: Coaches Ewch amdani: Go for it Sylwadau: Comments Y Bydysawd: The Universe Cyfarwyddwr: Director CLIP 2 Lleoliad: Location Gwerthfawrogi: To appreciate Heb os: Without doubt Yn ei hawl ei hun: In its own right Denu cynulleidfa: To attract an audience Difreintiedig: Disadvantaged Wedi elwa: Has profited Yn sylweddol: Substantially Fyddwn i’n dychmygu: I would imagine Yn bellgyrhaeddol: Far reaching Y tu hwnt i: Beyond Achlysuron arbennig: Special occasions CLIP 3 Yn achlysurol: Occasionally Troedio yn ofalus: Treading carefully I raddau: To an extent Ymwybodol: Aware Agweddau: Aspects Rhagrith: Hypocrisy Eithafiaeth: Extremism Ar yr ymylon: On the fringes Ffydd: Faith CLIP 4 Cic o’r smotyn: Penalty Ergyd: A shot Y cwrt cosbi: Penalty area Ysbrydoli: To inspire Menywod: ffordd arall o ddweud Merched CLIP 5 Cyd-destun: Context Agweddau: Attitudes Buddsoddiad: Investment Cynnydd: Increase Parhau i ddatblygu: Continuing to develop Carfan: Squad CLIP 6 Atgofion: Memories Cerddoriaeth: Music Cerrig milltir: Milestones Tegan: Toy CLIP 7 Bugeiliaid: Shepherds Drama’r Geni: Nativity Braint: A privilege Y Ceidwad: The Saviour Unig: Lonely Mynyddig: Mountainous Deuddeg can erw: 1200 acres Terfynau: Boundaries Eang: Extensive Awydd: Desire Er bore oes: Since childhood CLIP 8 Agorawd: Overture Gwisgoedd: Dresses Cystadleuol tu hwnt: Extremely competitive Heriol: Challenging Cerddorfa: Orchestra Ysgafnder: Lightness Gwaith caib a rhaw: Spadework er mai ‘pick and shovel’ ydy’ caib a rhaw’ fel arfer Cynhyrchiad: Production Uchafbwynt: Highlight Hyblyg: Flexible

7 jan. 2025 - 34 min 04 sec

 
Pont: Kierion Lloyd

Pont: Kierion Lloyd

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Kierion Lloyd. Cafodd Kierion Lloyd ei eni yn Aberhonddu ond oherwydd gwaith y teulu treuliodd ei blentynod yn byw dramor. Dychwelodd i ardal Wrecsam yn ddeunaw oed. Wedi cyfnod yn teithio yn Seland Newydd, roedd yn benderfynol o fynd ati i ddysgu’r Gymraeg ac i ailgydio yng ngwreiddiau’r teulu. Erbyn hyn, mae’n byw yn Rhosllanerchrugog. Mae ei hoffter a’i ddiddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg wedi bod yn allweddol yn ei daith iaith.

10 dec. 2024 - 20 min 01 sec

 
Podlediad Pigion y Dysgwyr, Rhagfyr 5ed, 2024

Podlediad Pigion y Dysgwyr, Rhagfyr 5ed, 2024

Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Tachwedd yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.

5 dec. 2024 - 32 min 52 sec